Welsh Language Books
Cyfres Roli Poli: Siencyn A'r Gêm Rygbi
Tanya L. James Mae Geraint a Siencyn yn ffrindiau gorau. Does dim yn well gan y ddau na chwarae pêl gyda'i gilydd allan yn yr ardd. Ond tybed beth fydd ymateb Siencyn wrth wylio Geraint yn chwarae rygbi i dîm Cwmhendy? Wedi'r cwbl, dyw'r ci bach ddim wedi gweld pêl rygbi o'r blaen! Ddim erioed.
'Dere, Siencyn, rho'r bêl rygbi'n 'nôl i ni!' Gyda lluniau hyfryd o ddiwrnod cyffrous Siencyn gan yr arlunydd Petra Brown, dyma stori sy'n siwr o fod yn ffefryn gan ddarllenwyr ifanc - yn llawn sbort a sbri! Language: Cymraeg Illustrated by: Petra Brown ISBN: 9781785621338 Current Publication Date: 2016 Format: Clawr Meddal Number of Pages: 48 |
Cyfres Roli Poli: Nan A'r Sioe Fawr
Ifan Jones Evans Does dim llonydd i'w gael i Nan, yr ast ddefaid. Mae hi wrth ei bodd yn helpu Defi ar fferm Ty'n Rhiw. O hel y defaid o'r mynydd i gwrso a chorlannu lawr ar glôs y fferm, does neb yn well yn ei gwaith na Nan. Ond, a hithau'n fore'r Sioe Fawr yn Llanelwedd, mae yna broblem wrth i Nan sylweddoli fod Huw yr hwrdd ar goll... Language: Cymraeg Illustrated by: Petra Brown ISBN: 9781785621093 Current Publication Date: 2016 Format: Clawr Meddal Number of Pages: 48 |
Cyfres Roli Poli: Deri Dan Y Daliwr Dreigiau
Haf Llewelyn Roedd Taid Deri Dan yn ddaliwr dreigiau penigamp a doedd dim byd gwell ganddo nag adrodd hanes y diwrnod y daliadd Dorcas, draig enfawr ffyrnig. Erbyn heddiw mae draig fawr arall wedi dechrau poeni trigolion y pentref a thro Deri Dan ydy hi i fynd ati i'w dal hi, gyda chymorth Beti, ei ddraig anwes ffyddlon. Mae'n ddiwrnod carnifal yng Nghwm Cynness ac mae'r ddau ffrind yn mynd ar antur i hela dreigiau ffyrnig. Language: Cymraeg Illustrated by: Petra Brown ISBN: 9781785621734 Current Publication Date: Gorffenaf 2017 Format: Clawr Meddal Number of Pages: 48 |
Cyfres Roli Poli: Bwch
Anni Llŷn Bwch gafr bach yw Bwch sy'n byw ar fferm Tyddyn Od gyda'i berchennog blin Cefin y Dewin. Mae pob un o'i ffrindiau ar y fferm wedi torri record byd. Dyma'r Anifeiliaid Ansbaradigaethus. Mae Bwch yn ysu i fod yn arbennig hefyd. Un diwrnod mae Sali a'i sglefrfwrdd yn cyrraedd y fferm ac mae Bwch yn darganfod ei fod o'n seren wedi'r cyfan! Y gwir yw bod gan bawb ei dalent ei hun. Language: Cymraeg Illustrated by: Petra Brown ISBN: 9781785621727 Current Publication Date: Mehefin 2018 Format: Clawr Meddal Number of Pages: 48 |
Cyfres Roli Poli: Jac Yn Achub Y Dydd
By Mari George Y diwrnod y daeth Jac daeth Jac y gwningen i fyw gyda Rhys a Cadi oedd diwrnod mwyaf cyffrous ei fywyd. Cwningen fach frown â chlustiau hir, llipa oedd Jac. Roedd yn chwe mis oed, ac yn llawn egni. Roedd yn chwilfrydig ac wedi cael llond bol ar fyw yn y siop anifeiliaid anwes. Ymunwch â Jac wrth iddo ddechrau ei fywyd newydd. Language: Cymraeg Illustrated by: Petra Brown ISBN: 9781785621130 Format: Clawr Meddal Number of Pages: 48 |
Cyfres Roli Poli: Arthur A Bwlis Pant Isaf
By Nia Parry Cath fawr goch, flewog ydy Arthur sy'n byw'n hapus gyda Gwion tan i bedair cath arall symud i fyw drws nesa. Roedd Arthur yn gobeithio cael ffrindiau newydd ond mae Fflwffyn, Twm, Melangell a Syfi yn gas iawn tuag ato. Bwlis Pant Isaf! Dydy o ddim yn iawn i fod yn gas i neb, yn enwedig cath fawr goch flewog, ond a fydd Arthur yn ddigon dewr i herio'r bwlis? Language: Cymraeg Illustrated by: Petra Brown ISBN: 9781785622458 Format: Clawr Meddal Number of Pages: 55 |
Cyfres Roli Poli: Pedro Y Pengwin Prysur
By Awen Schiavone Mae Pedro yn edrych fel pengwin arferol, yn swnio fel pengwin arferol ac yn bihafio fel pengwin arferol, ond nid pengwin arferol yw hwn... Un diwrnod mi a Pedro ar goll cyn cael ei ddarganfod gan dau o blant bach, Caryl a Carlo, sy'n edrych ar ei ôl nes iddo ganfod y ffordd adre. Language: Cymraeg Illustrated by: Petra Brown ISBN: 9781785622526 Current Publication Date: Medi 2018 Format: Clawr Meddal Number of Pages: 46 |